2014 Rhif 2124 (Cy. 208)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/951) (Cy. 92).

Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i dair Deddf Seneddol ac un offeryn statudol i ddarparu bod y Deddfau hynny a’r offeryn hwnnw yn cyfeirio at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddir o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â’r offeryn hwn, gan na ragwelir costau i’r sector busnes na’r sector gwirfoddol.

 


2014 Rhif 2124 (Cy. 208)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014

Gwnaed                                     6 Awst 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                   8 Awst 2014

 

Yn dod i rym                                  5 Medi 2014       

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([2]) ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)     yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014;

(b)     yn gymwys o ran Cymru ac o ganlyniad i hynny mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2—

                           (i)    yn ymestyn i Gymru a Lloegr; a

                         (ii)    yn gymwys o ran Cymru yn unig; ac

(c)     yn dod i rym ar 5 Medi 2014.

Diwygiadau canlyniadol

2.(1)(1) Yn adran 10 o Ddeddf Drylliau 1968([3]) (cigydda anifeiliaid)—

(a)     yn is-adran (1), yn lle “licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats” rhodder “holding a relevant licence”; a

(b)     ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

“(1A)          For the purposes of subsection (1) a person holds a relevant licence if that person—

(a) is licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats; or

(b) holds a certificate of competence or is licensed under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”

(2) Yn adran 16(1)(c) o Ddeddf Lladd-dai 1974([4]) (rheoli lladd-dai cyhoeddus), ar ôl “the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(3) Yn Atodlen 1 i Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986([5]) (dulliau priodol o ladd heb boen), yn Nhabl A, yn y golofn ar y chwith o’r pumed cofnod, ar ôl “a current licence granted under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or a certificate of competence or licence issued under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(4) Ym mharagraff 12 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013([6])—

(a)     dileer y gair “or” ar ôl is-baragraff (a); a

(b)     ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “or;

(c) a certificate of competence or licence to kill animals under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”

 

 

 

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

6 Awst 2014



([1])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([2])           O.S. 2010/2690.

([3])           1968 p. 27; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff (1). 

([4])           1974 p. 3; diwygiwyd adran 16(1)(c) gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff 2(3).

([5])           1986 p. 14; gwnaed diwygiadau perthnasol i Dabl A yn Atodlen 1 gan O.S. 2012/3039, rheoliadau 2 ac 16(1) a (4)(d).

([6])           O.S. 2013/2216.